Rhif y ddeiseb: P-06-1266

Teitl y ddeiseb: Profion COVID i blant sy'n addas i’r oedran

Geiriad y ddeiseb: Hoffwn i’r llywodraeth ystyried mabwysiadu dull gwahanol o brofi plant, sef prawf PCR sy'n addas i’r oedran a elwir yn brawf lolipop. Y cyfan sydd angen i blentyn ei wneud yw sugno ar swab cotwm am oddeutu 30 eiliad, sy'n brofiad llawer llai annymunol.

Rwyf wedi gweld bod profion COVID-19 i blant ifanc yn gallu bod yn drawmatig i'r plentyn a'r rhiant, yn enwedig wrth brofi plant iau. Mae hyn yn debygol o waethygu gyda thymor y ffliw ac anwydau ar ddod. Mae plant sy'n dueddol o ddioddef peswch yn gorfod cael y prawf swab PCR yn rheolaidd cyn iddynt allu dychwelyd i'r ysgol. Mae'r profion hyn yn peri straen a gofid yn aml, a’r cyfyng-gyngor i rieni yw a ddylid ynysu plentyn, er mai annwyd yn unig sydd ganddo, i osgoi gorfod gwneud prawf. Mae yna opsiwn gwell i blant sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio yn yr Almaen. Mae'n brawf PCR sy'n briodol i'r oedran a elwir yn brawf 'lolipop' ac mae'n ddibynadwy iawn. Tybed pam nad ydym yn cynnig y prawf hwn yn y DU. Hoffwn ofyn i'r Llywodraeth fabwysiadu’r dull hwn fel ffordd fwy caredig o brofi plant ifanc.  Mae’n hen bryd i ni leddfu’r gofidion sy’n gysylltiedig â phrofion!

 

 

 


1.        Y cefndir

Yn dilyn cyngor gan Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg ym mis Hydref 2021 y byddai profion COVID-19 arferol ar blant o dan bump oed yng Nghymru yn dod i ben (oni bai bod meddyg yn cynghori y dylid cymryd prawf). Dywedodd y Gweinidog fel a ganlyn:

Wrth ystyried gwerth profion, a phrofion ar gyfer pobl asymptomatig yn benodol, mae’n bwysig ystyried y niwed posibl. Rwyf wedi bod yn bryderus am lefel y profion PCR ar gyfer plant o dan 5 oed – mae’r nifer bum gwaith yn fwy nag yr oedd ddechrau mis Awst.

 

Felly nid yw Llywodraeth Cymru yn argymell profion COVID-19 ar gyfer plant o dan bump oed, oni bai bod meddyg yn cynghori y dylid cymryd prawf, neu os yw rhieni’n credu bod prawf yn gwbl angenrheidiol ac er lles y plentyn.

O 1 Ebrill 2022 newidiodd y canllawiau ar brofi ar gyfer COVID-19. Ni all pobl archebu profion llif ochrol (LFTs) mwyach oni bai bod ganddynt symptomau COVID-19. Mae pob safle profi PCR ar gyfer y cyhoedd wedi cau. Y canllawiau gan Lywodraeth Cymru o hyd yw nad oes angen i blant o dan 5 oed gael eu profi.

 

2.      Camau gan Lywodraeth Cymru

Mae llythyr y Gweinidog Iechyd at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn cydnabod pryder y deisebydd fod swabio yn brofiad annymunol i blant, ac yn dweud ei bod yn “agored i ddefnyddio technoleg newydd i wella gwasanaethau profi COVID-19”.

O ran y swab lolipop, mae’r Gweinidog yn egluro nad yw’r prawf wedi’i gymeradwyo gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC) hyd yma. Rhaid i weithgynhyrchwyr neu ddosbarthwyr sy'n cyflenwi profion COVID-19 fodloni Rheoliadau Dyfeisiau Meddygol (Cymeradwyaeth Dyfeisiau Prawf Coronafeirws) 2021.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd i gyflwyno math gwahanol o swab ar gyfer plant, a elwir yn swab boch. Mae’r swab boch yn ffordd o gasglu sampl o'r celloedd sydd y tu mewn i foch y plentyn. Mae’t swabiau boch yn ffordd gymharol syml o gasglu samplau i'w profi. Disgwyliwn y bydd swabiau boch ar gael yn yr haf.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.